|
Cwrs Cymraeg Y Mynydd Glass, 1996
Cwrs Cymraeg Y Mynydd Glas was held at Green Mountain College
in Poultney, Vermont. Here is a report on the course by Heini Gruffudd, the lead teacher..
Nol I Dudalen Rhestr Gyrsiau Cymdeithas Madog
Back To The Cymdeithas Madog Cwrs List Page
|
|
Roedd cyrraedd Poultney, Vermont, fel cyrraedd Cymru i'r pedwar athro o Gymru
a oedd newydd dreulio rhai dyddiau yn ninas wallgo Efrog Newydd.
Y wlad yn y lle cyntaf: gwlad fryniog, a'r golygfeydd yn ymestyn yn bell; tomen
ambell chwarel lechi'n dringo'r llechweddau uchwben y llynnoedd llonydd... Y prif wahaniaeth yn y wlad oedd diffyg
cloddiau, a mwy o goed.
A phentref Poultney ei hun: er ei fod yn bentref tawel, braf, yn nodweddiadol
o bentrefi hyfryd LLoegr Newydd, roedd yma ddigon o olion bywyd Cymraeg byrlymus blynyddoedd a fu. Roedd y Ddraig
Goch yn chwifio o flaen ambell dy, llechi Cymreig eu golwg ar do ambell dy, capeli Cymreig yma a thraw, ambell
un o'r hen drigolion yn dal i siarad Cymraeg, a'r mynwentydd yn llawn o feddau rhai a anwyd yng ngogledd Cymru.
Nid cyd-ddigwyddiad oedd hyn oll, wrth gwrs. Yma y cynhaliwyd y cwrs Cymraeg
cyntaf, ugain mlynedd yn ol, wrth i ymwybyddiaeth am y dreftadaeth Gymreig a Chymraeg gael ei deffro ymhlith rhai
o'r trigolion wedi gwaith a wnaed gan rai yn y Green Mountain College.
Manteisiodd y cwrs eleni ar y cysylltiadau Cymreig yn yr ardal, a dyma oedd
un o'r agweddau mwyaf diddorol i'r athrawon o Gymru. Cynhaliwyd Cymanfa Ganu yn y Capel Presbyteraidd Cymreig,
a threuliwyd awr ddiddan yn astudio'r casgliad llyfrau Cymraeg a'r arddangosfa yn y Coleg ei hun. Ymwelwyd ag amgueddfa
lechi newydd, lle y sgyrsiwyd a William Williams, hen chwarelwr sydd bellach yn grefftwr llwyau caru, ac aethpwyd
ar daith o gwmpas chwareli, mynwentydd a chapeli'r ardal.
Am fod rhyw 75 o fyfyrwyr wedi ymuno a'r cwrs eleni, roedd modd i bedwar athro
ddod draw o Gymru. Mae tri ohonynt - Heini Gruffudd, Mark Stonelake a Steve Morris - yn dysgu cyrsiau Cymraeg i
oedolion gyda Phrifysgol Cymru Abertawe. Emyr Davies, gwr dawnus sy'n dysgu yng ngholeg y Drinidod, Caerfyrddin,
oedd y pedwerydd. Ymunodd tri athro o America a hwy - Marta Weingartner-Diaz o Indianapolis, Paul Birt o Ottawa,
ac Alun Hughes o Ontario.
Trefnwyd rhaglen lawn o ddysgu - rhyw 4.5 awr y dydd, gan ddechrau am hanner
awr wedi wyth y bore. Trefnwyd y dysgwyr yn chwe lefel, o ddechreuwyr i rai rhugl. Wedi'r dysgu, cynhaliwyd bob
prynhawn nifer o weithgareddau, gan gynnwys cor, dosbarth canu gwerin, dawnsio gwerin, dosbarthiadau darllen, a
phapur y cwrs. Cafwyd rhaglen lawn fin nos hefyd, gan gynnwys Twmpath, Cymanfa Ganu, Noson Ganu mewn tafarn, Darlith
ar Gymry'r ardal, a gwelwyd ffilm 'Hedd Wyn'. Roeddem yn ffodus fod Jack Lewis, llywydd Cymdeithas Cymanfa Ganu
Genedlaethol Gymreig UDA, yno i arwain y Gymanfa yn ei ddull hwyliog a brwd ei hun. Gorffennwyd yr wythnos gyda
Noson Lawen ac Eisteddfod hwyliog.
Roedd ochr anffurfiol i'r gweithgareddau hefyd, a'r ochr hon yn dueddol o fynd
ymlaen yn hwyr i'r nos. Yn ol y son yfwyd y dafarn leol yn sych o gwrw 'Bass' un noson, ac ar ddiwedd y cwrs, bu
rhai mor ffol a gweld y wawr yn torri... ond gwell peidio a manylu.
Roedd llawer o ddysgwyr ifainc brwd ar y cwrs y tro hwn, a chafwyd dau ddosbarth
i ddechreuwyr. Roedd y rhain yn dod o sawl rhan o'r Unol Daleithiau, a phob un a'i reswm ei hun dros ddysgu'r iaith.
Roedd un llanc ifanc o Efrog Newydd wedi clywed ei fam-gu yn adrodd gweddi'r Arglwydd, a'i ddymuniad yn awr oedd
sicrhau ei fod ef, trwy ddysgu'r iaith, yn peri i'r iaith barhau yn ei deulu. Daeth Aned, merch a enillodd gystadleuaeth
prydferthwch yn Puerto Rico, i'r cwrs ar ol cael ei chyflwyno i'r Mabinogi mewn cwrs prifysgol yn Hawaii. Hedfannodd
dau arall yn eu cwrs yn eu hawyren breifat... mae'r storiau'n ddi-ben-draw.
Roedd yno hefyd nifer o'r hen ffyddloniaid, sydd yn cyfrannu'n helaeth tuag
at yr holl drefniadau. Bu Dick Myers, Loretta Close, Mary Elen Palmer a Janice Edwards yn enwedig o brysur yn sicrhau
bod y trefniadau lleol yn effeithiol. Heb y rhain, ni fyddai cwrs, ac ni ellir ond rhyfeddu at y gwaith aruthrol
a wneir gan y rhain ac eraill yn wirfoddol i sicrhau bod cyfle i bobl yn yr Unol Daleithiau dreulio wythnos yn
dysgu'r Gymraeg, a chael hwyl yr un pryd.
Mae gan lawer o'r mynychwyr awydd (a threfniadau pendant) i ddod i Gymru yn
ystod y flwyddyn, ac ni allwn ond gobeithio na chant eu siomi ar ol treulio wythnos wefreddiol yn dysgu'r iaith.
Yn sicr, fe gafodd yr athrawon eu hysbrydoli gan ymroddiad y dysgwyr, a chan y diddordeb newydd yn y Gymraeg sydd
fel pe bai'n ailgynnau yn yr Unol Daleithiau.
Cenedl heb iaith, cenedl heb galon. Mae'r syniad o Gymru erioed wedi bod yn
gysylltiedig wrth yr iaith. Er y gellir parhau ymdeimlad cenedlaethol heb yr iaith, collir hanfod Cymreictod. Mae'n
sicr bod llawer o gymdeithasau Cymreig ledled America'n cyfrannu at yr ymdeimlad cenedlaethol, ond mae rhaid edmygu'n
arbennig ymdrechion Cymdeithas Madog sydd yn trefnu'r cwrs iaith hwn mewn modd mor broffesiynol. |