|
Chwedl Ddau Gymydog
gan Delyth
(Sarah Stevenson)
Y ddarn fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog,
Cwrs Cymraeg Y Ddeilen Goch, 2004
Cyfieithiad Saesneg
English Translation
Nol I Dudalen Gartref Cystadleuaeth Y Gadair
Back To The Chair Competition Home Page
|
|
Amser maith yn ôl, cyn
clociau a chyn cenhedloedd, roedd y wlad yn lân, a'r nefoedd yn llawn heulwen drwy'r dydd a golau'r sêr
gyda'r nos. Crwydrodd anifeiliaid heb ofn bodau dynol. Dyna adeg pan gafodd Morwyn-y-Llyn a Crwt-y-Coed eu geni.
Wrth i Grwt-y-Coed adeiladu
tai tegan o ffyn a phren ar lannau'r llyn, roedd Morwyn-y-Llyn yn chwarae dan y dyfroedd dyfnion, yn adeiladu cestyll
tywod oedd yn codi eu tyrau i'r heulwen uwchben.
Daeth tro ar fyd. Adeiladodd
Crwt-y-Coed dy nad oedd yn degan, ty digon mawr i ddau. Ond dim ond fe oedd yn byw rhwng ei furiau, yn cael ei
swper ar ei ben ei hunan bob nos, yn meddwl am ei goedwig annwyl a weithiau am y Forwyn dlos oedd yn byw dan y
dwr.
Nid fe oedd yr unig un i sylwi
ar y Forwyn. Un dydd, dechreuodd ymwelwyr cyrraedd lan y llyn, dynion o bedwar ban byd. Ond doedd dim diddordeb
gyda Morwyn-y-Llyn ynddyn nhw. Cyn bo hir fe adawon nhw'r tir fel yn y dyddiau cynnar—yn ddistaw ar wahân
i'r anifeiliad a'r gwynt.
Bob bore, roedd Crwt-y-Coed
yn arfer gweiddi ar Forwyn-y-Llyn gyfarchiad llawen, a bob bore, dywedodd Morwyn-y-Llyn "Bore braf ydy e,
yntefe?" wrth iddi hi nofio mewn cylchau araf o gwmpas y llyn. Fe welodd y bachgen bob tro fod y ferch yn
brydferth fel y blodau. Ond roedd y Crwt yn swil, a dim ond "bore da" a "noswaith da" ddywedodd
e bob dydd.
Un bore daeth dyn tal i weld
Morwyn-y-Llyn. Fe aeth e bob dydd i'r llyn a gofyn i'r ferch, "Wnei di fy mhriodi?" Bob tro dywedodd
hi ddim byd wrtho. Ar ôl wythnos, gwylltiodd y dyn, a dechreuodd e weiddi a rhegi—nid dyn caredig iawn oedd
e. Roedd ofn ar Forwyn-y-Llyn. Pan welodd Crwt-y-Coed hynny, gwylltiodd e hefyd ar ran y Forwyn, a rhedodd e fel
cath ar dân i lannau'r llyn.
Gwelodd y dyn tal y bachgen
crac ‘ma yn rhedeg tuag ato, gyda ffyn yn ei wallt a dail ar ei ddillad, yn edrych fel rhywun o tu hwnt i'r byd
cyffredin, a rhedodd y dyn tal. Ond daeth e o hyd i goedwig yn llawn mieri a changhennau, ac wrth iddo fe ffoi
roedd y Crwt a'r Forwyn yn gallu ei glywed yn rhegi eto ac yn melltithio'r coed.
Yn ffodus, doedd dim diddordeb
gyda'r Crwt na'r Forwyn mewn melltithion di-rym dyn fel ‘na. Gwenodd y ddau ar ei gilydd, roedd y goedwig a'r llyn
yn ddistaw ac yn heddychol unwaith eto. Doedd yr un ohonyn nhw wedi dweud dim byd eto. O'r diwedd, torrwyd y tawelwch
gan Crwt-y-Coed.
"Bore da," dywedodd
e wrth Forwyn-y-Llyn.
"Bore braf ydy e, yntefe?"
atebodd hi. A chydiodd hi ym mraich Crwt-y-Coed am y tro cyntaf.
Y Diwedd...neu'r Dechrau
|
|
A Tale Of Two Neighbours
gan Delyth
(Sarah Stevenson)
The winning piece in the Cymdeithas Madog chair competition,
Cwrs Cymraeg Y Ddeilen Goch, 2004
Translation by the author
Cerdd Wreiddiol (Yn Y Gymraeg)
Original Poem (In Welsh)
Nol I Dudalen Cartref Cystadleuaeth Y Gadair
Back To The Chair Competition Home Page
|
|
A long time ago, before clocks
and before countries, the land was pure, and the skies full of sunshine throughout the day and starlight at night.
Animals wandered without fear of human beings. That was the time when the Lake Maiden and the Forest Boy were born.
While the Forest Boy built toy
houses of sticks and wood on the shores of the lake, the Lake Maiden played beneath the deep waters, building sand
castles that raised their towers to the sunlight overhead.
Things changed. The Forest Boy
built a house that wasn't a toy, a house big enough for two. But only he lived between its walls, having dinner
on his own each night, thinking about his beloved forest and sometimes about the lovely Maiden who lived under
the water.
He wasn't the only one to notice
the Maiden. One day, visitors began to arrive at the banks of the lake, men from the four corners of the world.
But the Lake Maiden had no interest in them. Before long, they left the land as in those early days—silent, apart
from the animals and the wind.
Every morning, the Forest Boy
used to shout a cheerful greeting to the Lake Maiden, and every morning, the Lake Maiden said "It's a fine
morning, isn't it?" as she swam in slow circles around the lake. The lad saw, each time, that the girl was
as lovely as the flowers. But the Boy was shy, and he said only "good morning" and "good evening"
each day.
One morning, a tall man came
to see the Lake Maiden. He went to the lake every day and asked the girl, "Will you marry me?" Each time,
she said nothing to him. After a week, the man was enraged, and he began to shout and swear—he was not a kind man.
The Lake Maiden was frightened. When the Forest Boy saw this, he too was enraged, on behalf of the Maiden, and
he ran like the wind (lit. "like a cat on fire") to the lakeshore.
The tall man saw that angry
lad running towards him, with sticks in his hair and leaves in his clothing, looking like someone from out of this
world, and the tall man ran. But he found the forest full of briars and branches, and as he fled, the Boy and the
Maiden could hear him swearing still and cursing the trees.
Fortunately, neither the Boy
nor the Maiden had any interest in the powerless curses of a man like that. The two smiled at each other, the forest
and the lake quiet and peaceful once again. Neither one had said anything yet. Finally, the silence was broken
by the Forest Boy.
"Good morning," he
said to the Lake Maiden.
"It's a fine morning, isn't
it?" she answered. And she took the arm of the Forest Boy for the first time.
The End…or The Beginning
|