|
Chwilio Am Y Gwreiddiau
gan Glenson T. Jones
Dyma draethawd
gan Glenson T. Jones, myfyriwr Cwrs Cymraeg Y Mileniwm yng Nghaerfyrddin. Ar y pryd, yn lefel 1 oedd o. Ond mae'n
amlwg ei fod o wedi bod yn gweithio'n galed ar y Gymraeg. Dyma ei stori.
Nol I Dudalen Cartref Darlleniadau
Back To The Readings In Welsh Home Page
|
|
Beth sydd yn ysgogi rhywun i
chwilio am eu gwreiddiau? Rhyw deimlad bod rhywbeth wedi cael ei golli? Trio gweld os basa bywyd wedi bod yn wahanol
petasai hyn a hyn wedi digwydd, neu ddim wedi digwydd? Neu efallai i'r rhai ohonon ni sydd ddim wedi cael ein magu
yng Nghymru yr angen mwy o wybodaeth am ein cefndir. Hiraeth?
Mi ges i fy ngeni yn Abertawe
ond des i i Ganada pan oeddwn i'n ddwy flwydd oed. A dyma fi yn Ottawa nawr gyda amser ar fy nwylo a'r teimlad
yn gryf fy mod i eisiau gwybod mwy am ddreigiau fy nghyndeidiau. Sut fath o fywyd baswn i wedi cael mewn dinas
yng Nghymru? Pa fath o fywyd oedd mewn entref yng Nghymru 100, 200 neu 300 mlynedd yn ôl?
Doeddwn i ddim, mewn gwirionedd,
eisiau troi'r cloc yn ôl, dim ond eisiau archwilio fy ochr Gymreig. Yr ochr a oedd bron wedi cael ei anwybyddu
am dros drigain mlynedd. Yr iaith, yr hanes, y diwylliant.
Ond sut i wneud hyn? Dwi wedi
sylweddoli pellach bod dysgu allan o lyfr yn fy amser sbââr yn wastraff amser. Roeddwn i eisiau rhyw
hwb go sydyn, rhywbeth i fy ngosod ar y cledrau cyflym ac i roi fflam i'r gwreichion.
Roeddwn i wedi clywed am gwrs
Gymraeg yng Nghaerfyrddin, cwrs un wythnos, yn Awst 2000. Wrth gwrs mi ddysgais beth o Gymraeg ond yn fwy na hynny
mi enillais lawer o hunan hyder a chododd fy niddordeb yn yr iaith a'r diwylliant Cymreig. Ar y bedwaredd diwrnod
aethon ni i'r farchnad yng Nghaerfyrddin i gyfarfod siopwyr. Dw i'n siwr roedden nhw'n cael eu diddanu gan ein
hymdrechion ond roedden nhw'n falch ein bod ni wedi gwneud yr ymdrech. Roedd pawb yn nymunol iawn. Yr wythnos wedyn
es i i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli gyda dau ddiwrnod yng Nghaerdydd. Ar y cyfan profiad gwefreiddiol,
ond yn flinedig hefyd.
Wrth lwc mae prifysgol Ottawa
yn cynnal cwrs Cymraeg sylfaenol a phellach dw i wedi cwblhau y tymor gyntaf ac yn edrych ymlaen at yr ail.
A sut ydw i wedi llwyddo i gyrraedd
y safon hyn mor gyflym?
Yr ateb yw fy mod i wedi ymddeol
ac wedi gosod ar wahân llawer o oriau i fy astudiaethau. Roedd cwrs y brifysgol yn cynnwys yr ugain gwers
gyntaf o hen gyfres 'Catchphrase' y BBC ond hefyd mi roeddwn i wedi cael gafael ar gasetiau yn cynnwys dros gant
o'r gwersi a phellach dw i wedi gwrando ar dros drigain ohonyn nhw tra mod i'n gyrru o amgylch Ottawa bob dydd.
(Mae pobl sydd wedi ymddeol yn ffeindio rhywbeth i wneud a rhywle i fynd yn eu hamser hamdden.)
Mae gen i lawer iawn i ddysgu
eto ond fel dw i'n dweud yn aml does na ddim pwrpas heneiddio os na allwch chi ei fwynhau. I ysgrifennu erthygl
fel hyn mae'n rhaid i mi ddibynnu ar lawer geiriadur, llyfr gramadeg, llyfr am strwythurau'r ferf a hefyd llyfr
ymadroddion Cymraeg i ddysgwyr. Ond pob tro dw i'n gwneud rhywbeth, dw i'n dysgu, ac mae'r tro nesaf yn haws.
Cyn diwedd y flwyddyn dw i'n
gobeithio gallu darllen llyfrau i ddysgwyr.
Geirfa
- Ysgogi - to stir
- Gwreiddiau - roots
- Amser ar fy nwylo - time on my hands
- Dreigiau fy nghyndeidiau - the dragons of my forefathers
- Archwilio - to research
- Anwybyddu - to ignore
- Diwylliant - culture
- Gwastraff amser - waste of time
- Cledrau cyflym - fast track
- Gwreichion - sparks
- Ennill - to win
- Hunan hyder - self confidence
- Diddordeb - interest
- Diddanu - to amuse
- Ymdrechion - attempts
- Dymunol - pleasant
- Ar y cyfan - on the whole
- Gwefreiddiol - thrilling
- Blinedig - tiring
- Sylfaenol - basic
- Cwblhau - to complete
- Edrych ymlaen - to look forward to
- Gosod ar wahân - to set aside
- Astudiaethau - studies
- Cynnwys - contents
- Cael gafael - to get hold of
- O amgylch - around
- Heneiddio - to get older
- Strwythur - structure
- Ymadroddion - sayings
- Haws - easier
|