Please select your page

Mae Heini Gruffudd wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd. Athro brofiadol yn Ne Cymru ac awdur sawl lyfr i ddysgwyr, mae o'n dysgu Cymraeg yn y coleg yn Abertawe. Dyma adrodd Heini ar Gwrs Cymraeg Y Mynyd Glas, Poultney, Vermont. 1996.


Cwrs Cymraeg Y Mynedd Glas - 1966

Mae'r ymfudo mawr i America'n un o benodau mwyaf cyffrous hanes Cymru. Erbyn diwedd y ganrif ddiwethaf reodd 100,000 o bobl a anwyd yng Nghymru yn byw yn yr Unol Daleithiau, a'u plant a'u hwyrion hefyd. Roedd y cyfnod hwnnw'n un o antur mawr, wrth i weithwyr haearn, dur, copor a glo, chwarelwyr, ffermwyr a gweinidogion, fentro ar longau digon simsan ar draws y môr mawr.

Fe lwyddodd y rhan fwyaf i gael bywoliaeth dda, a phrofi fod y Cymry, ond iddyn nhw gael cyfle, yn gallu llwyddo ym mhob maes o fywyd. Ond eu disgynyddion nhw heddiw sy'n gorfod codi'r darnau a oedd wedi disgyn. Ymhlith y darnau a chwalwyd, gwaetha'r modd, mae'r Gymraeg. Mae'n ysbrydoliaeth fod cymaint o Gymry America heddiw'n ailafael yn yr iaith, ac roedd y Cwrs Cymraeg yn Poultney, Vermont, eleni, yn dyst i'r brwdfrydedd newydd.

Fel y disgwyl, erbyn hyn, cafwyd wythnos o weithgareddau di-baid, gwersi brwd, a nosweithiau hwyliog. Oherwydd bod cymaint wedi dod i'r cwrs - tua wyth deg, roedd rhaid cael pedwar athro o Gymru. Roedd saith dosbarth dysgu, a braf oedd gweld cynifer o ddysgwyr newydd wedi dod. Mae'r cwrs erbyn hyn yn llwyddo i ddenu bobl newydd i ddysgu'r iaith. Gwelwyd hyn yn Atlanta ac yn Poultney.

Beth oedd uchafbwyntiau'r cwrs eleni? Yn sicr, mae'r cwrs yn gyfle i hen gyfeillion gwrdd, ac mae'n rhoi chwistrelliad o Gymreictod i bawb sy'n dod. Mae'n dda cael nerth newydd i'r batri! Trwy'r gweithgareddau anffurfiol - y sgyrsio amser bwyd, y cwmnïa fin nos, mae rhwymyn o gyfeillgarwch yn gafael yn dyn.

Roedd hi'n braf hefyd cwrdd â wynebau newydd. Rhai wedi hedfan yn arbennig o Galiffornia, brenhines prydferthwch wedi dod o Puerto Rico, a nifer o Efrog Newydd. Gobeithio y bydd y rhain i gyd yn gallu dal eu gafael yn eu hiaith newydd.

Profiad gwerthfawr i bawb ar y cwrs oedd darganfod y gwreiddiau Cymraeg yn y rhan hon o'r byd. Roedd gweld y Ddraig Goch yn cyhwfan y tu allan i'r gwesty lleol, gweld enwau Cymraeg ar dai ac ar geir, a darganfod trigolion Cymraeg a disgynyddion y Cymry cynnar yn gyffrous.

Ar ôl dod yn ôl i Gymru, fe welais ddisgrifiad o ardal chwareli Vermont, a chyfraniad y Cymry i ddatblygiad yr ardal yn llyfr William D. Davies, America a Gweledigaethau Bywyd (Merthyr Tydfil, 1894). Meddai fe mai'r Cymro cyntaf i agor chwarel yn yr ardal oedd Owen Evans. Yna ceir sôn am Hugh W. Hughes, "brenin y chwarelau".

Diolch i Janice Edwards a'r pwyllgor trefnu, cafwyd cyfle i gael blas ar y gorffennol cyfoethog hwn. Roedd y daith o gwmpas y chwareli a'r capeli Cymraeg, a'r mynwentydd yn arbennig, ac roedd clywed y Gymraeg yn dal ar wefusau rhai o'r trigolion lleol yn wefreiddiol. Fe gofiwn hefyd y gymanfa ganu yn y capel lleol, a Jac yn arwain yn frwd hyd at chwysu.

Tipyn o gamp oedd yfed y dafarn leol yn sych, ond y pleser oedd treulio'r noson honno'n canu alawon Cymru: dyna hefyd y wefr a gafodd y tafarnwr ar y noson ganu swyddogol, pan gafodd ei gyffroi i'r fath raddau nes codi'r ffôn er mwyn i'w wraig gael clywed y canu. Ffilm Hedd Wyn wedyn - ffilm a barodd ias i rai nad oedd yn gyfarwydd â'r hanes. Gallwn ychwanegu hwyl y dawnsio gwerin a'r noson lawen..digon yw dweud i'r wythnos fod yn un fythgofiadwy.

Yn sail i'r cyfan, wrth gwrs, roedd yr awydd i feistroli'r Gymraeg, ac fe wnaed hynny'n effeithiol ac yn ddyfal yn y gwersi cyson bob dydd. Roedd yn bleser gweld sut roedd rhai o'r mynychwyr wedi datblygu ers y cwrs y llynedd, a'r Gymraeg bellach yn dod yn iaith gyfarwydd iddynt.

Ni fydd yr athrawon o Gymru'n anghofio'u hymwelaid. Fe gawson ni flas byr ar Efrog Newydd cyn dod, ond roedd hi'n falm i'r enaid cyrraedd gwlad braf Vermont, a oedd yn atgoffa dyn am Gymru, ac roedd pentref Poultney yn fan dymunol a chyfeillgar.

Yn ddigon diddorol, fe ddes ar draws cyfeiriad at Poultney mewn llyfr a ysgrifennwyd ar America yn 1883 (y llyfr taith cyntaf yn y Gymraeg, tybed? Dros Cyfanfor a Chyfandir, William Davies Evans, Aberystwyth). Meddai'r awdur am Poultney: ".. gwelais un o'r pentrefi glanaf ac iachusaf yr olwg arno. Oddiwrth led mawr ac uniawnder ei heolydd, gwychder ei adeiladau, a threfn tyfiant ei brenau cysgodawl, gallwn dybio ei fod yn lle paradwysaidd yn yr haf."

Wel do, fe gawson ni wythnos baradwysaidd. Blas ar hanes, ar Gymru ac ar y Gymraeg. Diolch i bwyllgor gweithgar Cymdeithas Madog am eu trefniadau trylwyr arferol, a roddodd i'r athrawon ac i'r mynychwyr wythnos wrth fodd pawb.


Geirfa

  • ymfudo - to emigrate
  • cyffrous - exciting
  • cyfnod - period
  • sinsan - rickety
  • disgynnydd - descendant
  • ailafael - reacquire
  • brwdfrydedd - enthusiasm
  • denu - attract
  • chwistrelliad - injection
  • brenhines prydferthwch - beauty queen
  • darganfod - to discover
  • cyhwfan - to wave
  • trigolion - inhabitants
  • datblygiad - development
  • gweledigaeth - vision
  • pwyllgor - committee
  • gorffennol - past
  • mynwent - cemetary
  • chwysu - to sweat
  • camp - feat
  • cyffroi - to excite
  • ychwanegu - to increase
  • bythgofiadwy - unforgettable
  • sail - foundation, base
  • mynychwyr - attendee
  • dymunol - pleasant
  • cyfeillgar - friendly
  • diddorol - interesting
  • tybed - I wonder
  • lled - wide
  • uniawnder - straightness
  • tyfiant - growth
  • cysgodawl - shady
  • trylwyr - thorough
  • arferol - usual