Please select your page

Y ddarn fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg Y Mynydd Glas, 1996 gan Y Derwydd Medrus (Kevin Rottet)


Dyddiadur Chwarelwr

Darganfuwyd, dydd Iau diwethaf, mewn nenlloft ym Mhoultney, Vermont, ychydig o dudalennau a oedd yn rhan o ddyddiadur chwarelwr Cymraeg o'r ganrif ddiwethaf. Dydy perchennog y ty lle yr oedd y tudalennau ddim wedi gallu dod o hyd i weddill y llyfr. Dyma'r rhan sydd yn ddarllenadwy:

Mis Awst y chweched, 1872: Glaniodd fy llong yn y Byd Newydd y bore 'ma ar ôl taith galed ar y môr stormus a pheryglus. Nid oeddwn i'n gallu rhwystro fy hunan rhag meddwl mai arwydd o'r nefoedd oedd y cymylau duon hynny, a'r tonnau ewynnog a oedd yn siglo ein llong. Er hynny, o'r diwedd, rhoddon ni ein traed ar y tir, a gweld America am y tro cyntaf.

Yr wythnos ddiwethaf cafodd fy enw ei ddileu o restr y cleifion, er bod tipyn o beswch arnaf o hyd. Ysgrifennaf fwy pan byddaf yn teimlo'n well.

Awst yr wythfed: Ar ôl y daith hir mewn cerbyd, cyrhaeddais i neithiwr bentref bach o'r enw Poultney, lle mae fy mrawd Siôn yn byw ers dau fis a hanner. Basai'n anodd iawn disgrifio'r llawenydd a brofon ni wrth ni wrth ail-weld ein gilydd. Des i o hyd iddo ar ôl iddo orffen diwrnod hir o waith yn y chwarel. Nid anghofiaf byth yr ennyd y gwelodd ef fi yn dod tuag ato, â'r mynegiant ar ei wyneb budr a blinedig yn troi yn llawen.

Byddaf i'n cysgu heno, fel neithiwr, mewn ystafell gyda deg chwarelwr arall; ond cysgaf i'n dda oherwydd bydd y llawr yn llonydd, heb ymchwydd y môr.

Awst y degfed: Yr wyf wedi clywed bod amryw o leoedd yma yn America lle mae pobl yn mwyngloddio'r llechen, ond yr wyf yn credu bod Poultney yn un o'r harddaf. Wrth edrych ar y mynyddoedd sydd yn sefyll yn fawreddog o gwmpas y pentref, mae fy meddyliau'n troi at Ogledd Cymru sydd mor bell i ffwrdd, ac at wyrddni cymoedd fy ieuenctid.

Dechreuais i weithio yn y chwarel bore ddoe, gwaith yr wyf yn ei nabod eisoes yn iawn. Nad yw llawer yn wahanol i fy nghwaith yng Nghymru. Er hynny, mae un peth sydd yn bwysig iawn, sef y byddwn ni'n cael ein talu yn deg yma. O leiaf, dyma'r hyn y maent yn ddweud wrthon ni. Arhosaf i ychydig o wythnosau cyn anfon am fy ngwraig a fy mhlant, er mwyn bod yn sicr y bydd y bywyd yma fel maent yn ddweud.

Awst yr unfed ar ddeg: Mae'r gweithwyr i gyd yn Gymry yn y chwarel yma. Cefais fy synnu wrth gerdded i lawr y stryd y dydd o'r blaen. Chywais i ddim ond y Gymraeg. Mae ychydig o'r dynion wedi anfon neges at eu gwragedd yn dweud iddynt ddod i America, felly mae cymuned Cymraeg ei hiaith yn tyfu ac yn ffynnu, ac mae swn melys yr heniaith yn disgyn ar fy nghlust o bron pob ty yn y pentref.

Mae'r cyflenwad o lechen yn ymddangos yn ddiddiwedd yn yr ardal. Welais i erioed gymaint yng Nghymru, ac mae'r pant yn mynd yn dyfnach ac yn dyfnach bob dydd. Mae hefyd amryw o liwiau gwahanol, ar hyn o bryd llechen goch, sydd yn brydferth iawn ar doeon y tai yn y cymoedd.

Awst y trydydd ar ddeg: Gwisgais fy nillad gwychaf y bore 'ma a mynd i'r capel gyda fy mrawd. Mae gynnon ni bregethwr Cymraeg yn awr a gyrhaeddodd America ar y llong cyn fy un fi. Dyn dymunol iawn ydyw efe, tanllyd ei ysbryd a bywiog ei lygaid. Siaradodd heddiw am ei weledigaeth o dynged y Cymry yn y cymoedd hyn, ac yr oeddwn i'n meddwl, wrth wrando ar ei eiriau brwdfrydig ac angerddol, mor hyfryd a mor heddychol y fasai fy mywyd yma petai fy nheulu gynnyf.

Y Derwydd Medrus


A Quarryman's Diary

Discovered, last Thursday night, in an attic in Poultney, Vermont, a few pages that were part of a Welsh quarryman's diary from the last century. The owner of the house where the pages were hasn't been able to find the rest of the book. Here is the section that is readable:

August the sixth, 1872: My ship landed in the New World this morning after a hard journey on the stormy, dangerous sea. I wasn't able to restrain myself from thinking that those black clouds and the foamy waves that shook our ship were a sign from heaven. Despite this, at last, we put our feet on the ground, and saw America for the first time.

Last week my name was removed from the sick list, although I still have a bit of a cough. I'll write more when I feel better.

August the eight: After a long journey in a carriage, I arrived at a little village called Poultney last night, where my brother Siôn has lived for two and a half months. It would be very difficult to describe the joy we felt when we saw each other again. I found him after he finished a long day of work in the quarry. I'll never forget the moment that he saw me coming towards him, the expression on his dirty, tired face turning to joy.

I'll be sleeping tonight, as last night, in a room with ten other quarrymen; but I'll sleep well because the floor is still, without the sea's swells.

August the tenth: I have heard that there are a variety of places here in America where people mine slate, but I believe that Poultney is one of the most beautiful. Looking at the mountains that stand majestically about the town, my thoughts turn to North Wales so far away, and to the green valleys of my youth.

I started working in the quarry this morning, work that I already know well. It isn't a lot different from my work in Wales. Despite this, one thing is very important, we would be paid fairly here. At least, that's what they tell me. I'll wait a few weeks before sending for my wife and children, in order to make sure that life here will be as they say.

August the eleventh: All the workers in this pit are Welsh. I was suprised walking down the street the other day. I heard only Welsh. A few of the men have sent messages to their wives telling them to come to America, so a Welsh language community is growing and flourishing, and the sweet sound of the old language falls on my ears from almost every house in the village.

The supply of slate in the area appears endless. I never saw so much in Wales, and the cut is getting deeper and deeper each day. Also, there is a variety of different colours, at the moment red slate, that is very beautiful on the house roofs in the valley.

August the sixteenth: I put on my best clothes this morning and went to chapel with my brother. We have a Welsh preacher now who arrived on the ship before mine. He's a very pleasant man, fiery spirited and lively eyed. He spoke today of his vision of the fate of the Welsh in these valleys, and I thought, while listening to his enthusiastic, passionate words, how lovely and how peaceful my world would be if I had my family.

Kevin Rottet
Cyfieithiad gan / Translation by John Otley