Please select your page

Y traethawd buddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg yr Afon Fawr, Rio Grande, 2005 gan Rebecca Redmile


Synfyrfyrdodau Nain

Wrth eistedd yn effro ar dy bwys di'n breuddwydio, ti, faban, gu-wyres anwylaf dy nain, na pheidiaf bendroni pa olwg y bydd ar y byd i'th genhedlaeth i gario ymlaen? Na welai'th ddychymyg ond gwlad ein gwasgariad, y tirlun di-staen fel addewid ein Duw, y gwenith i'w fedi a'r nefoedd dibendraw a geidw'n calonnau'n ddiolchgar am fyw. Trwy ffenestr y caban, 'deiladwyd, fy maban, gan lafur a chwys ael 'r ymfudwyr i gyd, gweledig mae glannau gwyrdd 'r afon a'n cludai, a'n noddi, cymuned o ledled y byd. Mae'r lleuad yn t'wynnu a golau'n melynu symudliw ar ddyfroedd Ohio draw 'cw, yn llif ddiarwybod drwy feysydd i'w tyddio a gwneuthur Sir Gallia'n doreithiog a gwiw. Fe red ei nant arian drwy'r t'wyllwch ac weithian, fe aeth heibio hen fferm John Tomos fan 'na, Cyffesaf, fy Lisa, fy ngobaith ydyw i ti briodi yn d'amser, yn ffawd wrth ei fab. Yr eiddo i'n diwydiant ni ffynnant yr ardal, mae ynte'n gyfrifol am lwyddiant y lle, Mae'r ffermwyr a gweithiwyr o Gymru yn cael eu hadnabod yn weithwyr caletaf y dre'. Ond gwaed yr hen wlad sydd yn llenwi'n gwythiennau, a cherddi'r hen wlad a dyrr dant yn ein bron, i ti y cyfrifir a phlant dy genhedlaeth, i gadw'n ddilychwin 'r etifeddiaeth hon. Buaswn i'n adrodd tra cysgi heb warth am gychwyn cuddiedig y Cymry di-dir, gan bwyll ymgartrefu, a mwythder gwydd dofi, y wlad hon odidog drwy dymhorau hir. Dw i'n cofio ers talwm pan laniodd ein cychod ar hyd yr Ohio mewn gwynt oer a glaw, Braf iawn oedd i'n gweled ni hebddynt hwy drannoeth, a chefngwlad go debyg i Bowys gerllaw. Fy mreuddwyd, 'ngholomen, i ti yn arbennig, mai merched deallus gall lwyddo yn fawr, Ti'n ddel a reit glyfar i fynd yn go bell, wel, falle i'r coleg, mewn gwlad newydd nawr. Mi gei di dy fagu, delfrydau i'th ddysgu gwynfydau a erys i'r rhai galon bur, mae Nebo a Thyn Rhos yn sefyll fel lampau i dywys dy draed di rhag maglau o ddur. O, cadwed ti'n ddibaid ym mynwes cyd-frodyr, yn saff rhag peryglon rhyfelwyr rhyfedd, a llyfner dy ffordd drwy'r anialdir presennol, a'th lanio'n fuddugol yn harbwr ein hedd.