Please select your page

Y darn fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg Bro Ohio, 1990 gan Graham Hughes


Gwreiddiau

Ym mha le y ddylwn i chwilio am fy ngwreiddiau?

Ces i fy ngeni mewn tref ddiwydiannol yn Ne Cymru, lle r'oedd y Cymraeg yn edwino a bron yn diflannu pan oeddwn i'n blentyn. Aferai fy nhad siarad Gwenhwyseg, tafodiaith swynol y cymoedd, ond ni siaradai fy mam dim gair o'r iaith, er iddi ddod o deulu yn llwyr Cymreig, a' thad hi wedi sylfaenu capel Cymraeg yn y dref. (Calfaria, capel y Bedyddwy - rwy'n ei gofio yn finiog dros y blynyddoeth).

Ond, yn y trychineb ofnadwy a ddioddefodd yr iaith, yn y ganrif hon, magwyd fy mam gan fy nhadcu a'm mamgu yn uniaith Saesneg. Byddai'r Gymraeg, yn eu barn nhw, yn rwystredigaeth i lwyddiant yn y byd cyfoes. Efallai eu bod nhw'n iawn.

Wel, dyma fi yn esiampl o'u rhagweliad nhw. Mynd i brifysgol enwog yn Lloegr, mynd yn fargyfreithiwr yn Llundain, yn athro y gyfraith mewn prifysgol enwog yn America. Ysgrifennu llyfrau yn Saesneg; dadlau yn llysgoedd uchaf Lloegr ac American yn Saesneg. Dyna gamp! Llwyddiant ni ellid ei dyfalu gan fy nhadcu a'm mamgu. Llwyddiant dros ben!

Ond dyma beth od! Ar unwaith ar ôl i mi ymadael â Chymru, yn syth dechreuais i deimlo rhyw chwithdod yn y gwythiennau. Hiraethai fy ysbryd am yr hen ddyddiau gynt, a cheisio i neidio dros y cenhedlaethau i gysylltu â fy nghyndeidiau oedd yn byw heb dorri gair o Saesneg. Bu gorfod i mi gychwyn ar y daith hir a brwydro i grafangu yn ôl darn o'm hetifeddiaeth a aeth ar goll. Trwy'r flynyddoedd, yn boenus o araf, rwy wedi ail-gipio ynys fechan o'r filltir sgwar lle trigai'r Cymry.

Ond paham? Peth hawdd ydy colli iaith, ond pa mor hir a chaled yw'r llwybr i'w ail-ennill. Ond fyddai'n haws i gefnu ar yr hen wlad a'r hen iaith a chymodi a'r realiti cyfoes? Ar ôl gyrfa ar uchelgais yn anelu yn unig at lwyddiant ym myd eang y diwylliant Saesneg, "beth yw'r ots gennyf i am Gymru?"

Ond mae'r gwreiddiau yn gadarn, ond ydynt? Mae llawenydd a dagrau y profiad Cymreig trwy'r oesau yn dal i bwyso arnaf a fyddan nhw ddim yn fy ngadael i'n llonydd. D'ydi hyn ddim yn reswm i ofidio. Mae'r heniaith yn rhoi arial i'm calon ac, fel y dywed y bard:

"Nol blino treiglo pob tref
Teg edrych tuag adref."

Ie, wir, peth cadarn ydi gwreiddiau.

Graham Hughes


Roots

I was born in an industrial town in South Wales where the Welsh language was in a state of decay, on the verge of disappearing, even when I was a child. My father spoke Gwenhwysig, that charming dialect of the valleys, but my mother could not speak a word of the old language, even though she came from a completely Welsh family, and her father had founded a Welsh language chapel in the town. (It was a Baptist chapel, Calfaria, and I remember it so sharply after all these years).

But, in that terrible disaster that overwhelmed the language in this century, my grandparents brought up my mother to be monoglot English. They thought that Welsh would be an impediment to success in the modern world. Perhaps they were right.

I am certainly an example of their foresight. I went to a famous English university, became a barrister in London and a professor of law in a well known American university. I wrote books in English and argued in English in the highest courts in England and America. What a success story! Acheivements that my grandparents could not have dreamed of. Tremendous success!

But something peculiar happened. Once I had left Wales, suddenly I could feel a current of uneasiness in my veins. My spirit seemed to yearn for bygone days; it sought to leap over generations and link up with my ancestors who had lived without ever speaking a word of English. I felt compelled to set out on a long journey, to struggle to wrest back some piece of my lost inheritance. And over the years, in a painfully slow way, I have managed to retake possession of a small strip of that square mile where the Welsh once lived.

But why? It's so easy to lose a language and the path to regaining it is so long and hard. Wouldn't it be easier to turn one's back on the old country and the old language and come to terms with contemporary reality? When all my ambition and my carerr had been directed at success int he broad world of English culture, "what should Wales matter to me?"

But roots are so powerful, aren't they? The joy and the tears of the Welsh experience through the ages are always in my mind; they won't let me forget. But that's not something to regret. The old language thrills me, and, as the poet wrote:

"After wandering through so many lands,
It is sweet to look towards home."

Yes, roots are powerful things, indeed.

Graham Hughes
Cyfieithiad gan / Translation by Graham Hughes