Jôcs Cwrs Cymraeg

Bob blwyddyn ym mhapur y cwrs, mae sawl jôc. Mae rhai'n ddidgri (ac mae rhai eraill yn wael). Dyma bigion o jôcs Cwrs Cymraeg.

Diolch yn fawr i'r myfyrwyr sy wedi cyfrannu'r jôcs ardderchog 'ma.

Nol I Dudalen Cartref Hiwmor

Back To The Humour Home Page

 

Jôcs Cwrs Cymraeg

Rydw i wedi clywed bod moesau yn newid wrth i rhywun fynd o'r dwyrain i'r gorllewin yng Nhgymru. Er enghraifft, yng Ngharedydd pan fyddan nhw'n rhoi cwpaned o de i chi ac rydych chi'n gofyn am ragor o siwgr, bydd eich gwahoddwr yn dweud, "Dyma bot o siwgr."

Yn bellach i'r gorllewin yng Nghaerfyrddin, bydd y person yn dweud, "Un lwmpyn neu ddau?"

Ar lan y mor yn Aberteifi, bydd yn dweud, "Ydych chi wedi troi'ch tê chi eto!"

=====

Aeth dyn i mewn i awyren a ffeindio ei sedd a oedd, fel y mae'n digwydd weithiau, wrth ymyl gwraig brydferth iawn. Eisteddodd y dyn a dechrau siarad a'r wraig ar ôl i'r hediad ddechrau. Sgwrsion nhw am ychydig am nifer o bynciau. Wedyn, dechreuodd y wraig siarad yn ddifrifol iawn.

"Mae rhai gwragedd yn hoff o bob math o wr, 'dych chi'n gweld, ond dim ond dau fath o ddyn sy'n fy niddori i; y rhai sydd a'u gwreiddiau ymhlith yr Indiaid Cochion a'r rhai sy'n dod o Gymru".

Nid oedd y dyn yn gwybod beth i'w ddweud fel ateb. Felly aeth y sgwrs ymlaen am bynciau eraill.

Wedyn, dywedodd y fenyw, "Wel, 'dyn ni wedi bod yn siarad am dipyn a dw i heb gyflwyno fy hunan. Elinor Westin ydw i."

"O wel," meddai'r dyn, "Hiawatha Llywelyn Jones ydw i!"

=====

Un nos, yr oedd dyn tlawd a benderfynodd droi at fywyd o ddrwg weithiau. Torrodd i mewn i ardd ty enfawr a wal fawr o'i gwmpas, a dechrau cerdded yn araf tua'r ty.

Yn sydyn, clywodd lais yn dweud, "Mae Iesu yn dy wylio di."

Arhosodd y dyn am funud, a meddwl ei bod e wedi dychmygu'r llais. Ail ddechreuodd gerdded, a chlywed y llais unwaith eto yn dweud, "Mae Iesu yn dy wylio di."

Dechreuodd feddwl mai ei gydwybod oedd yn siarad efo fo. Edrychodd o'i gwmpas ac o'r diwedd gwelodd barot mawr yn eistedd ar gangen.

Dywedodd y dyn wrtho, "Ti 'wedodd, 'Mae Iesu yn dy wylio di?'"

"Ie," atebodd y parot.

"Beth ydy dy enw di?" gofynnodd y dyn.

"Pinocchio," oedd yr ateb.

"Pinocchio? Pa fath o ynfytyn fasai'n galw ei barot yn Binocchio?"

"Yr yn fath o ynfytyn fasai'n galw ei ddoberman yn Iesu," oedd ateb y parot.

Draig Cymdeithas Madog

© Cymdeithas Madog
12 Mawrth/March 2000

Problems or comments?
Contact the webmaster

 

Hiwmor/Humour